Copyn heglog

Crane fly (Tipula luna)

Crane fly (Tipula luna) ©Chris Lawrence

Copyn heglog

Enw gwyddonol: Tipulidae
Yn gwibio o gwmpas y tŷ yn yr haf, mae'r copyn heglog, brown yn gyfarwydd i lawer ohonom. Mae’n ffynhonnell fwyd werthfawr i lawer o adar.

Species information

Ystadegau

Body length: 1.6cm
Leg length: 5cm

Statws cadwraethol

Common.

Pryd i'w gweld

Mehefin i Medi

Ynghylch

Math mawr o bryf teiliwr ydi’r copyn heglog, ac mae 94 o rywogaethau yn y DU. Mae’n gyfarwydd i ni yn ei ffurf fel oedolyn fel y pryf heglog sy’n gwibio o gwmpas ein cartrefi yn yr haf. Fel larfa, mae'n lindys llwyd (sy’n cael ei alw hefyd yn 'siaced ledr') sy'n byw o dan y ddaear, gan fwydo ar goesynnau a gwreiddiau planhigion. Mae'r arfer yma’n ei wneud yn rhywogaeth amhoblogaidd gyda garddwyr oherwydd gall adael darnau noeth o lawnt, a gall hefyd ddod yn bla amaethyddol. Mae'r oedolion ar yr adain tua diwedd yr haf ac yn gyffredin mewn gerddi a chaeau, gan ddod dan do yn aml. Pur anaml mae’n bwydo ar yr adeg yma, gan ganolbwyntio ar baru a dodwy ei wyau yn y glaswellt.

Dydi’r copyn heglog ddim yn wenwynig, dim ond myth ydi hynny! Dydi o ddim yn gallu brathu, ond mae'n debygol mai'r rheswm dros y si ei fod yn wenwynig yw am ei fod yn cael ei gamgymryd am rai rhywogaethau o bryfed cop.

Sut i'w hadnabod

Mae'r copyn heglog fel oedolyn yn bryf brown, hir ei gorff, gydag adenydd tryloyw a choesau hir iawn, sy'n dod i ffwrdd yn hawdd os caiff ei gyffwrdd. Fel grŵp, mae pryfed teiliwr yn hawdd iawn eu hadnabod, er gall fod yn anodd iawn dweud y gwahaniaeth rhwng y gwahanol rywogaethau ac yn aml mae angen microsgop.

Dosbarthiad

Widespread.

Roeddech chi yn gwybod?

Os byddwch chi’n edrych yn ofalus, mae gan y gwryw gorff pen sgwâr, ond mae gan y fenyw gorff hir, pen pigfain - y 'gynffon' yma sy'n debyg i bigwr ydi ei hwyddodydd ac mae'n ei ddefnyddio i ddodwy ei hwyau yn y ddaear.

Sut y gall bobl helpu

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio’n agos gyda ffermwyr, perchnogion tir a chynllunwyr i sicrhau bod ein bywyd gwyllt yn cael ei warchod ac i hyrwyddo arferion sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Drwy gydweithio, gallwn greu Tirweddau Byw: rhwydweithiau o gynefinoedd sy’n ymestyn ar draws gwlad a thref sy’n caniatáu i fywyd gwyllt symud o gwmpas yn rhydd ac sy’n galluogi pobl i fwynhau buddion byd natur. Cefnogwch y weledigaeth wyrddach yma ar gyfer y dyfodol drwy ymuno â'ch Ymddiriedolaeth Natur leol.
How to make a bug home

Matthew Roberts

Wildlife Gardening

Help wildlife in your garden
Red-tailed bumblebee

Red-tailed bumblebee ©Jon Hawkins - Surrey Hills Photography