Cwblhewch yr arolwg yma heddiw!
Pobl a natur sy’n bwysig yn yr Arolwg Natur Mawr.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a’r Ymddiriedolaethau Natur ar draws y DU, eisiau clywed eich barn chi am rai o’r cwestiynau mwyaf sy’n ymwneud â byd natur a’n rôl ni wrth ofalu amdano.
🌍 Pa mor aml ydych chi’n mynd allan i fyd natur, os o gwbl?
🌍 Ydi byd natur yn bwysig i chi? Os felly, pa mo bwysig?
🌍 Pa rôl, os o gwbl, ddylai pobl, busnes a’r llywodraeth ei chwarae wrth reoli byd natur?
Would you like to complete the survey in English? Click here
Beth yw pwrpas yr arolwg?
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal yr arolwg yma i gael gwybod beth mae pobl yn y DU yn ei feddwl mewn gwirionedd am fyd natur a sut dylem ni, fel cymdeithas, ei warchod. Bydd y canlyniadau hefyd yn helpu'r Ymddiriedolaethau Natur i ddwyn y llywodraeth i gyfrif dros ei pholisïau a'i blaenoriaethau amgylcheddol.
Rydyn ni'n angerddol am rymuso pobl i weithredu dros fyd natur. Lleisiwch eich barn ar y materion pwysig yma drwy gwblhau'r arolwg heddiw!
Gwasgarwch y gair
Y gorau po fwyaf! Rhannwch y linc i’r arolwg gyda’ch cysylltwyr ar wefannau cymdeithasol os gwelwch yn dda trwy ddefnyddio’r botymau islaw.