Gilfach
Location
Know before you go
Dogs
When to visit
Amseroedd agor
Mae’r warchodfa ar agor trwy’r flwyddyn ond mae’r Tŷ Hir ar gau i’r cyhoedd gan ei fod wedi’i rentu’n breifat.Yn Hen Fuarth y Fferm, mae’r Beudy ar agor â bocs gonestrwydd ar gyfer lluniaeth, toiled i’r anabl a llawer o wybodaeth am y warchodfa.
Amser gorau i ymweld
Mis Ebrill i fis TachweddAm dan y warchodfa
Am ganrifoedd, roedd Gilfach yn fferm fynydd weithredol; nawr mae’n warchodfa natur ysblennydd yn swatio ynghudd yn Nyffryn Marteg yng nghalon ardal wledig Canolbarth Cymru. Mae da byw yn dal i bori yno ar adegau penodol o’r flwyddyn i warchod ei gyfoeth o fywyd gwyllt.
Gydag amrywiaeth ardderchog o fywyd gwyllt, mae’r llwybrau cerdded â chyfeirbwyntiau wedi’u cynllunio er mwyn ichi fwynhau’r warchodfa a lleihau’r effaith y byddwch chi’n ei chael arni ar yr un pryd. Caniateir cŵn ond mae’n rhaid eu cadw ar dennyn i bawb gael mwynhau ac mae’n rhaid codi’r baw cŵn a chael gwared ohono o’r warchodfa. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â pham, cliciwch yma.
Mae Gilfach yn lle arbennig, sy’n enwog am ei wybedog brith, bronwen y dŵr, y tingoch ac eog yn llamu, gydag Afon Marteg yn llifo trwyddo. Yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yma ydy’r hyn sy’n gwneud Gilfach yn wahanol. Gellir gweld dros chwarter o’r holl gennau yng Nghymru yn tyfu yma!
Mae grug y mêl, grug yr ysgub a’r eithin yn dod â choelcerth o liw i’r llechweddau tuag at ddiwedd yr haf. Mae eu blodau â’u cyfoeth o neithdar yn denu trychfilod fel cacynen y llus (Bombus monticola) a gwyfyn y cadno.
Mae glöynnod byw wrth eu boddau â’r blodau gwyllt a’r glaswelltau, yn eu mysg y fritheg berlog fach, y glesyn cyffredin a’r brithribin gwyrdd i enwi dim ond rhai. Mae dros saith deg gwahanol fathau o adar wedi’u cofnodi, gyda dwy ran o dair ohonyn nhw’n dewis bridio yma. Mae’r llinos bengoch, y bras melyn, crec yr eithin, y llinos, y barcud coch, y gwybedog mannog a’r gog i gyd yn treulio amser yng ngwarchodfa Gilfach.