Pentwyn - a vision for the future

Marbled white butterflies

(c) Guy Edwardes / 2020VISION

Fferm Pentwyn – gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Lle sy’n cynnig gobaith i bobl a byd natur

Dychmygwch dirwedd yn llawn suon, trydar a bwrlwm bywyd gwyllt. Tirwedd sy’n cynnig ac yn cynnal gobaith – gobaith am fyd gwell i fyd natur a phobl.

Bydd y tir ym Mhentwyn yn cael ei drawsnewid yn oasis sy’n llawn hymian, suon a thrydar, lle gellir clywed galwadau adar sydd dan fygythiad unwaith eto. Mae wedi’i leoli wrth ymyl tir gwyllt arall, felly mae potensial da i helpu bywyd gwyllt i ffynnu eto ar draws ardal ehangach drwy ehangu a chysylltu cynefin gwyllt.

Belted galloway

(c) Megan Abram

Cyfrannwch at Bentwyn

Gwireddwch ein gweledigaeth a gwneud eich rhan i adfer byd natur i Sir Faesyfed
£

Ein Gweledigaeth

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed am i Bentwyn fod yn fwy gwyllt drwy wneud lle i fyd natur a chaniatáu i brosesau naturiol ddatblygu, ond yr ydym hefyd am iddi fod yn fferm. Model o fferm newydd ar gyfer y dyfodol. Gyda chig lles uchel, mewnbwn isel yn cael ei gynhyrchu o’r stoc, a llysiau, ffrwythau a chnau’n cael eu cynhyrchu gan y busnes garddio masnachol, a fydd wedi rhoi cyfle i newydd-ddyfodiad i fyd ffermio. Yn bennaf oll, rydym am weld byd natur yn cynyddu ar y tir, denu pobl i mewn, rhoi ymdeimlad o les iddynt, eiliadau o ryfeddod a gobaith i ddyfodol pob un ohonom. Yn hollbwysig, ar gyfer Pentwyn rydym wedi creu gweledigaeth uchelgeisiol 30 mlynedd ar gyfer y dyfodol, y gallwch ei darllen isod:

Pentwyn illustration

(c) Jeroen Helmer / Ark Nature

Mewn 5 mlynedd...

Read here
Pentwyn 15 year vision

Pentwyn in 15 years... (c) Jeroen Helmer / Ark Nature

Mewn 15 mlynedd...

Read here
Pentwyn 30 year vision

Pentwyn in 30 years... (c) Jeroen Helmer / Ark Nature

Mewn 30 mlynedd...

Read here

Rydyn ni’n cynrychioli cymuned o bobl sy’n caru natur ac felly dydyn ni ddim yn ffermio’r tir yn y ffordd gonfensiynol bresennol.  Byddwn yn agored am hyn ac am yr angen i ddod o hyd i ffordd o adfer natur ar y safle, sy’n darparu manteision ehangach i’r dirwedd ac i’r gymuned, sy’n bodoli ochr yn ochr â dyfodol ffermio, ond sydd hefyd yn cynnig enghreifftiau o’r hyn y gellir ei wneud mewn busnesau fferm er budd natur.  Byddwn yn ceisio creu cyfleoedd cyflogaeth a dod ag arian i’r economi leol drwy ddefnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol.  Mae gennym sylfaen staff a gwirfoddolwyr sy’n byw yn yr ardal ac sy’n weithgar yn y gymuned.

Prosiect Pentwyn Mwy Gwyllt

Ym mis Medi 2023, dechreuodd Prosiect Pentwyn mwy Gwyllt, sy’n cael ei ariannu am ddwy flynedd. Mae wedi cymryd amser i ni sefydlu ein hunain ar y safle, ac rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar ad-dalu’r benthyciad, ond bydd y gweithgarwch nawr yn dechrau cyflymu ym Mhentwyn gyda’r prosiect hwn ar waith!  

Rhagor o wybodaeth am Brosiect Pentwyn Gwyllt

National Lottery Heritage Fund logo

Mae prosiect Pentwyn mwy Gwyllt yn bosibl diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Gallwch wneud gwahaniaeth

Fel elusen, rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth.

Drwy gyfrannu, gallwch ein helpu i gael sir Faesyfed fwy gwyllt.

Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod bywyd gwyllt Sir Faesyfed yn cael ei warchod am genedlaethau i ddod.

O daliad untro i fod yn aelod, rydym yn gwerthfawrogi pob rhodd.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith? Cofrestrwch yma!

Cyllidwyr

Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a ddarparwyd gan nifer o gyllidwyr hael.  

Rhagor or wybodaeth

Prif Roddwyr

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu’n sylweddol at ein Hapêl Pentwyn? Lawrlwythwch ein Llyfryn Prif Roddwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Codi arian ar gyfer Pentwyn

Trefnwch eich digwyddiad codi arian eich hun er budd Pentwyn, gan ddefnyddio ein pecyn codi arian defnyddiol i’ch helpu!

Prosiect Cyllido Natur

Mae’r cyllid ar gyfer y pryniant wedi cael ei fenthyca gan grŵp o fuddsoddwyr preifat sy’n rhannu ein hangerdd dros alluogi adferiad bywyd gwyllt ar safleoedd ble mae byd natur wedi dirywio.  Arweinir y grŵp gan Julia Davies, sylfaenydd cronfa amgylcheddol o’r enw We Have the POWER.

Julia Davies We Have the Power

CREDIT: We Have the Power

We have the POWER logo

Helpwyd ni gan Julia Davies o ‘We Have The Power’ ynghyd â benthycwyr haelionus eraill, Andrew MacKay a Nick Marple, i gaffael y safle hwn drwy eu prosiect Funding Nature. Mae rhagor o wybodaeth am safleoedd eraill sydd wedi cael eu caffael gan Funding Nature ar gael yma.

Girl cartwheeling

(c) Matthew Roberts

Trefnwch eich digwyddiad codi arian eich hun!

Set up your own fundraiser!