Rydyn ni’n gwarchod bywyd gwyllt
Ynghyd â’n haelodau a’n gwirfoddolwyr, rydyn ni’n gweithio i warchod bywyd gwyllt ledled Sir Faesyfed, ar ein 18 gwarchodfa natur a thrwy ein gwaith gydag eraill.
2022-2030 Strategy
At RWT we believe that if we act now, together across communities and strategically with landowners and decision makers we can create positive change for both nature’s recovery and climate change – reducing its impacts and mitigating against in-bedded changes.
Rydyn ni’n rheoli tirweddau naturiol
Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn rheoli ychydig dros 400 hectar o dir er budd bywyd gwyllt. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag eraill i’w hannog a’u helpu nhw i reoli eu tir, o erddi i ffermydd a mannau gwyrdd cymunedol, er budd bywyd gwyllt.
Rydyn ni’n addysgu pobl am ryfeddodau natur
Rydyn ni’n addysgu pobl o bob oedran i ofalu am fywyd gwyllt, trwy ein gwaith gydag ysgolion a phobl ifanc, sesiynau hyfforddi a’n digwyddiadau i’r teulu.
Rydyn ni’n sefyll o blaid bywyd gwyllt yn Sir Faesyfed
Rydyn ni’n ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar fywyd gwyllt yn lleol ac yn genedlaethol. Rydyn ni’n gweithio’n lleol i sicrhau bod bywyd gwyllt yn cael ei warchod – trwy ein gwaith cynllunio, er enghraifft.
Adroddiad 2017 Bywyd Gwyllt yn Sir Faesyfed
Gwnaeth Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed archwiliad manwl i asesu statws presennol bywyd gwyllt Sir Faesyfed yn 2017. Mae’r adroddiad yn manylu ar y blaenoriaethau i rôl Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed wrth gynorthwyo i adfer natur.