Sut rydyn ni’n cael ein hariannu

Sut rydyn ni’n cael ein hariannu

Elusen ydy Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed ac, o’r herwydd, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth tanysgrifiadau ein haelodau, rhoddion, grantiau, cymynroddion a ffynonellau ariannu eraill i’n galluogi ni i gyflawni ein gwaith.

Cyfrifon ac Adolygiadau Blynyddol

Mae ein Cyfrifon a’n Hadroddiadau Blynyddol yn adolygu ein perfformiad am y flwyddyn, y cynnydd rydyn ni’n ei wneud yn erbyn ein hamcanion a’n nodau ar gyfer y dyfodol.

Mae yna hefyd wybodaeth am ein llywodraethu, ein strwythur a’n rheolaeth, a chyfrifon manwl o’n cyllid.

Mae Cyfrifon ac Adroddiadau Blynyddol y tair blynedd diwethaf ar gael ar wefan y Comisiwn Elusennau.

Dau fath o incwm

Mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed yn derbyn dau brif fath o incwm: cyfyngedig (ar gyfer prosiectau penodol) ac anghyfyngedig (ar gyfer cyflawni ein hamcanion elusennol yn barhaus).  Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y ddau fath hyn o incwm.

Mae’r mwyafrif llethol o gynlluniau grant yn cyfyngu ar eu cyllid ac os rydyn ni’n llwyddo i sicrhau cyllid, rydyn ni wedi’n cyfyngu’n llwyr i’w wario ar yr eitemau yn unol â gofynion y contract cyllido. Petaen ni’n dewis gwario’r arian ar rywbeth arall, fe fydden ni’n torri ein contract ac fe fyddai’n rhaid i ni roi’r arian yn ôl.

Incwm Anghyfyngedig

Mae’r math hwn o incwm yn hynod bwysig gan fod yr Ymddiriedolaeth yn gallu ei ddefnyddio ble bynnag y mae’r angen mwyaf i helpu i warchod bywyd gwyllt Sir Faesyfed. Ymhlith y ffynonellau incwm anghyfyngedig posibl mae:

  • Tanysgrifiadau Aelodaeth
  • Rhoddion mewn Ewyllysiau
  • Rhoddion Er Cof
  • Rhoddion cyffredinol
  • Gwerthu nwyddau Vine House Farm

Incwm Cyfyngedig

Mae’r Ymddiriedolaeth yn derbyn incwm cyfyngedig oddi wrth arianwyr grantiau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n bartneriaid; mae hwn tuag at gyflawni prosiectau penodol. Ymhlith y ffynonellau cyllid cyfyngedig mae:

  • Loteri Cod Post y Bobl
  • Y Loteri Genedlaethol
  • Y Gronfa Cymunedau Tirlenwi
  • Llywodraeth Cymru

Hoffech chi godi arian ar ein rhan?

Diolch ichi am ystyried codi arian ar ein rhan.  Mae pob ceiniog rydych chi’n ei chodi’n helpu i warchod bywyd gwyllt yn Sir Faesyfed i bawb ei fwynhau.

Dyma rai syniadau:

  • Casglu’ch newid mân mewn jar jam.
  • Gwagu’r garej a chynnal sêl garej neu fynd i sêl cist car.
  • Yn siarad gormod?!  Beth am gael eich noddi i gadw’n dawel!
  • Cynnal bore coffi neu de prynhawn.
  • Cynnal sêl blanhigion.
  • Herio’ch hunan i wneud taith gerdded/ nofio/ reid beic noddedig.

Mwy o syniadau!

Mae’ch caredigrwydd chi’n ein helpu ni i ofalu am ddolydd blodau gwyllt Gilfach, sy’n cynnal amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt.

Ymweld â Gilfach