Gwybodaeth a chyngor ar fywyd gwyllt
Mae gweld bywyd gwyllt yn gallu bod yn anhygoel, ond mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i’w wneud mewn rhai amgylchiadau. Efallai’ch bod chi wedi taro ar anifail sydd wedi’i anafu neu wedi marw, neu efallai’ch bod chi’n amau bod trosedd wedi’i chyflawni. Fe geisiwn ni wneud ein gorau i’ch cynghori ynglŷn â phwy i ofyn iddyn nhw am gymorth.
Pwy ddylwn i roi gwybod iddyn nhw am ddigwyddiad?
Yma yng Nghymru, mae angen rhoi gwybod i gorff Cyfoeth Naturiol Cymru am y mwyafrif o ddigwyddiadau.
Cyfoeth Naturiol Cymru ydy’r Corff mwyaf a Noddir gan Lywodraeth Cymru – yn cyflogi 1,900 o staff ledled Cymru gyda chyllideb o £180 miliwn. Ffurfiwyd y corff ym mis Ebrill 2013, gan ymgymryd â swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i raddau helaeth, yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru.