Gweledigaeth 15 Mlynedd Pentwyn

Pentwyn illustration

(c) Jeroen Helmer / Ark Nature

Mewn 15 mlynedd...

Y weledigaeth ar gyfer Pentwyn mewn pymtheg mlynedd...

Mae prosesau naturiol wedi’u sefydlu’n eang, mae iechyd y pridd wedi gwella ac mae lefelau’r maethynnau ar y tir wedi gostwng.  Bydd carbon wedi cael ei ddal a’i storio drwy reolaeth mewnbwn isel sy’n cyflawni ychwanegolrwydd a fydd yn cyfrannu at ein nod o gyflawni Sero Net erbyn 2030 ac arddangos manteision mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur ar y cyd.

Mae rheolaeth heb lawer o gynnal a chadw yn parhau, ac mae’r safle’n hunangynhaliol o ran cyllid, gan dalu am ei gostau adnoddau o leiaf.  Bydd y safle’n cyfrannu at wella ansawdd dŵr, cadw dŵr a lliniaru ymchwyddiadau stormydd.  Cynefinoedd allweddol: mae gwlypdiroedd, Rhosydd, tir pori a ffriddoedd sy’n gyforiog o rywogaethau yn cael eu hadfer ac yn cael eu rheoli’n helaeth heb dargedau sefydlog a rhagnodedig ar gyfer strwythur a chyfansoddiad.

Bydd cymysgedd o dda byw yn chwarae rhan yn y gwaith o reoli’r safle a bydd y gymuned yn cymryd rhan.

Bydd mynediad cyhoeddus yn caniatáu i bobl feithrin cysylltiad â thirweddau sy’n gyforiog o natur ar draws tirwedd ehangach y Gororau.

Bydd Pentwyn yn gweithredu fel rhan o uned ecolegol ehangach, gysylltiedig o fewn ardal tirwedd byw Bryniau Dwyrain Maesyfed.  Bydd bywyd gwyllt yn yr ardal wedi cynyddu o ran amrywiaeth a niferoedd oherwydd ein rheolaeth.

Bydd y safle’n adnabyddus iawn a bydd yn cael ei weld fel lle i ymweld ag ef nid yn unig ar gyfer rheolwyr tir a selogion byd natur ond hefyd ar gyfer teuluoedd lleol a thwristiaid.  Bydd gennym gysylltiadau â’r gymuned leol, ysgolion a busnesau. 

Mynd nol i tudalen gweledigaeth Pentwyn