Yn Nes at Natur
Diben prosiect Yn Nes at Natur yw dod â natur at bobl nad yw efallai o fewn cyrraedd rhwydd iddyn nhw fel rheol. Mae yno i bobl sydd o bosibl angen y therapi a ddaw, yn aml, law yn llaw â natur. Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda phobl yng Nghartrefi Gofal Sir Faesyfed yn ogystal ag elusen ganser y trydydd sector.