Arweinwyr Gwyrdd y Dyfodol

Trainees looking through Binoculars

Arweinwyr Gwyrdd y Dyfodol

 

Ydych chi'n berson ifanc oed 16-25 yn byw ym Maesyfed? Ydych eisiau bod allan yn natur fwy a gweithredu ar gyfer yr amgylchedd?
 

Mae Arweinydd Gwyrdd y Dyfodol yn brosiect sy'n canolbwyntio ar alluogi bobl ifanc yn Sir Faesyfed i gweithredu ar gyfer natur, a meddwl yn fwy cynaliadwy. Byddwn yn rhoi siawns i bobl ifanc ddysgu'r sgiliau i gweithio yn erbyn yr argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd trwy creu lleoliadau profiad gwaith, digwyddiadau, a gweithdai ar draws y sir.

Nature's Recovery and Climate Change Trainee

Profiadau gwaith

Os ydych chi'n 16-25 a gyda diddordeb yn bywyd gwyllt, ac eisiau dechrau gyrfa yn y sector amgylcheddol, mae ein profiadau gwaith yn cynnig siawns ardderchog i ddysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer swyddi yn cadwraeth.

Adferiad natur ieuenctid

Rydym yn gweithio hyd a lled y sir i helpu adeiladu hyder bobl ifanc a'u sgiliau cadwraeth, tra'n gwella llefydd gwyrdd Maesyfed ar gyfer natur.

Digwyddiadau a Gweithdai

Mae gennyn ni nifer o weithdai sy'n canolbwyntio ar bywyd cynaliadwy, dysgu sgiliau adnabod bywyd gwyllt, ac ymgyrchu ar gyfer natur a newid hinsawdd.

2 people standing next to bug hotel

Grwpiau Cymunedol

Gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol er mwyn gwella llefydd gwyrdd a chysylltedd cynefinoedd, a darparu cyngor ar gyfer gweithred tymor-hir ar gyfer newid hinsawdd a atafaelu carbon.

Pencampwr Ieuenctid

Rydym yn edrych am Bencampwr Ieuenctid; rhywun sy'n ymroddedig at gwella bywyd ar gyfer pobl a bywyd gwyllt, a sy'n fodlon defnyddio'i llais, a deall sut gallwn ni'n gyd ddefnyddio ein lleisiau er mwyn cymeradwyo bywyd gwyllt.

Edrychwch yma am rôl ddisgrifiad Pencampwr Ieuenctid:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Catrin, Swyddog Ymgysylltu ag Ieuenctid, at catrin@rwtwales.org.

Danfonwch ffurflenau wedi'i gyflawni at catrin@rwtwales.org, neu postiwch at ein swyddfa: Warwick House, High St, Llandrindod Wells, Powys, LD1 6AG.

Mae'r brosiect yma wedi'i ariannu gan Llywodraeth y DU trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deurnas Unedig, wedi'i gefnogi gan Cyngor Sir Powys.

 

Wedi'i ariannu gan Llywodraeth y DU