Un rhaglen. Dwy wlad. Tri dalgylch afon. Pedair Ymddiriedolaeth Natur yn cydweithio er budd natur, mewn partneriaeth â rheolwyr tir.
Mae Ymddiriedolaethau Natur Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Swydd Henffordd a Swydd Amwythig wedi llunio Partneriaeth ‘Gororau Gwylltach’.
Mae’r bartneriaeth arloesol hon, sy’n croesi ffiniau siroedd a gwledydd, wedi’i sefydlu i ddiogelu ac adfer tirwedd unigryw a bioamrywiol y Gororau Gwylltach; tirwedd 500ha i’r de o Bishop’s Castle ac i’r gorllewin o dref farchnad Llwydlo yn Swydd Amwythig, i’r gogledd o Whitney-on-Wye yn Swydd Henffordd ac i’r dwyrain o Lanbister, Powys. Ein gweledigaeth yw byd naturiol sy’n ffynnu, lle bo bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr mewn mynd i’r afael â’r argyfyngau o ran yr hinsawdd ac ecoleg, a lle bo pawb wedi’u hysbrydoli i chwarae rhan mewn adfer natur.
Rydyn ni yn y cyfnod datblygu ar hyn o bryd, diolch i gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol 1989 John Swire. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo, rydyn ni’n gobeithio gweld:
- Ardaloedd bywyd gwyllt craidd yn cael eu hehangu
- Cynefinoedd yn cael eu hadfer a’u creu fel rhan o’r dirwedd amaethyddol: coetiroedd cymysg, coed pori, ffridd, gwrychoedd, ymylon caeau
- Mawndiroedd yn cael eu diogelu a’u hadfer
- Sianeli afonydd, gorlifdiroedd a gwlyptiroedd yn cael eu hadfer
- Mwy o ffermio atgynhyrchiol; pori er cadwraeth gyda bridiau brodorol
- Cynnydd mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy
- Mwy o dwristiaeth a ffrydiau incwm eraill heblaw am ffermio
Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen cyn bo hir trwy ein tudalennau newyddion a’n blog.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn, cysylltwch â Jenny Jackson-Tate, Rheolwr Rhaglen Gororau Gwylltach: jennyjt@wildermarches.org.uk | 07930 952198.