Gweledigaeth 5 Mlynedd Pentwyn

Pentwyn illustration

(c) Jeroen Helmer / Ark Nature

Mewn 5 mlynedd...

Y weledigaeth ar gyfer Pentwyn mewn pum mlynedd...

Mae’r benthyciad wedi cael ei ad-dalu – neu ei ail-gyllido – gan helpu i greu profiad ymwelwyr a phrofiad dysgu ar gyfer ystod eang o bobl, gan gynnwys rheolwyr tir.

Mae ein Prosiect Pentwyn mwy Gwyllt yn mynd rhagddo. Rydym wedi cynnwys y gymuned leol ac mae ganddynt lais o ran yr hyn sy’n digwydd ar y safle.  Rydym yn arddangos dyfodol rheoli tir lle mae natur a’i adferiad yn sbardun ar gyfer rheoli, ynghyd â lliniaru newid yn yr hinsawdd, addasu a gwytnwch.

Byddwn wedi dechrau modelu economeg cynhyrchu bwyd mewnbwn isel, allbwn isel, o ansawdd uchel drwy ein hanifeiliaid pori, ac os yw’n bosibl, wedi sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu drwy arddio masnachol ar raddfa fach, neu gynhyrchu bwyd dan do.  Lle bynnag y bo modd, bydd unrhyw gynnyrch ar gael i’r gadwyn gyflenwi leol.

Byddwn wedi dechrau dangos beth sy’n bosibl os ydym yn feiddgar o ran sut rydym yn mynd ati i gyllido adferiad byd natur.

Bydd mosaig o gynefinoedd yn cael eu ffurfio ar draws y safle, gan gynnwys: porfa llawn rhywogaethau, ffriddoedd, prysgwydd, adfywio coetir ac yna o amgylch y fferm, perllan a rhyw fath o dyfu bwyd cymunedol.

Bydd anifeiliaid pori yn arf pwysig wrth reoli’r safle heb lawer o gynnal a chadw, gyda gwartheg, merlod a hyd yn oed moch yn cael eu defnyddio. Bydd rhywfaint o gynhyrchu bwyd o’r anifeiliaid pori lle bo hynny’n bosibl.   Bydd technegau pori helaeth yn cael eu harddangos i ffermwyr lleol.

Byddwn wedi cynnal arolygon a gwaith monitro sylfaenol a byddwn yn cofnodi’r newidiadau i’r tir a’r manteision i fywyd gwyllt, gan addasu’r rheolaeth lle bo angen.  Byddwn yn defnyddio’r data hwn i hyrwyddo’r prosiect ac annog eraill i ymgymryd â mentrau tebyg.

Mae Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt eraill yng Nghymru wedi cael eu hysbrydoli i ymgymryd â mentrau tebyg ac mae’r mudiad wedi denu cefnogaeth rhoddwyr a chyllidwyr mawr sy’n arwain at newid sylweddol yn lefel y cyllid ar gyfer ein gwaith.

Bydd mynediad i’r cyhoedd i’r safle yn cael ei hwyluso a’i annog, gydag arwyddion hygyrch sy’n ceisio ymgysylltu pobl â’r bywyd gwyllt ac ysbrydoli cariad at natur mewn ffordd hwyliog a difyr.   Y nod fydd denu cynulleidfaoedd newydd i fyd natur a thrwy hynny cynyddu niferoedd y rheini sydd wedi’u hysbrydoli i’w ddiogelu. 

Bydd negeseuon yn hygyrch i bobl o bob oed a chefndir, gan gynnwys y rheini sydd â Chymraeg neu Saesneg ysgrifenedig cyfyngedig. Nod negeseuon fydd gwneud i ymwelwyr fod eisiau gwybod mwy ac eisiau cymryd camau i helpu i ddiogelu ac adfer byd natur yn eu cymunedau eu hunain.

Mynd yn ôl i dudalen Gweledigaeth Pentwyn

Mynd nol i tudalen gweledigaeth Pentwyn