Ar ôl fferm fynydd sy'n gweithio, sydd bellach yn warchodfa natur ysblennydd yng nghanol Canolbarth Cymru, mae Gilfach yn cefnogi llawer o gynefinoedd cyfoethog ac amrywiol, ac mae ganddi dreftadaeth ddiwylliannol a bywyd gwyllt sylweddol.
Cynhaliwyd Prosiect Archwilio Gilfach rhwng gorffennaf 2016 - Hydref 2018. Ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Am gyflwyniad gwych i'r lleoliad diddorol hwn, gwyliwch y fideo isod, yn cynnwys y naturiaethwr enwog Iolo Williams.
Lle Arbennig
Mae'r cynefinoedd hyn yn gartref i llawer o planhigion ac anifeiliaid a dyna sy'n gwneud y Gilfach yn lle mor arbennig. MAe'n lle da i weld gwybedogion brith, bronwennod y dŵr, ac eogiaid yn neidio ac mae'n un o'r llefydd gorau yng Nghymru i weld cennau, gyda dros chwarter holl gennau Cymru yn tyfu yma.
O Fferm Fynydd i Warchodfa Natur
Am ganrifoedd, bu'r Gilfach yn fferm fynydd weithiol. Erbyn hyn, mae'n warchodfa natur ysblenydd, lle mae anifeiliaid yn dal i bori er mwyn gwarchod y cynefinoedd bywyd gwyllt. A hithau'n swatio yng Nghwm Marteg, mae'r fferm yn glytwaith o dirweddau lle ceir cyfoeth o gynefinoedd - o'r afon a glaswelltir corsiog i ddolydd, coetiroedd a friddoedd y llethrau creigiog.
Llwyddiant Mawr
Mae prosiect Archwilio Gilfach wedi llwyddo i wneud Gilfach yn fwy hygyrch nag erioed, wedi agor y safle i grwpiau a defnyddwyr newydd, ac wedi tynnu mwy o sylw at y mwsoglau, cennau ac infertebratau hanfodol bwysig sy'n byw yma.
Darllenwch fwy am y prosiect drwy'r ddolen isod!
Cymryd Rhan!
Mae digon o ffyrdd i gefnogi'r prosiect:
- Cymerwch ran yn ein digwyddiadau a'n gweithgareddau!
- Cofrestrwch i fod yn Wirfoddolwr!
- Rhoi i'r Ymddiriedolaeth!
- .. A llawer mwy!