Harddwch Naturiol
Mae'r GIlfach yn lle arbennig oherwydd yr holl wahanol fathau o fywyd gwyllt sydd yma. Mae rhai mathau o blanhigion ac anifeiliaid yn brin, eraill yn fwy cyffredin, ond cynefinoedd amrywiol y cwm sy'n ei wneud yn lle mor gyfoethog.
O Fesen Fach
Yn y gwanwyn mae carped o glychau'r gog a blodau serenllys yng Nghoed Derw'r Gilfach. Mae'r coetiroedd yn lle delfrydol ar gyfer adar fel y gwybedog brith a'r tingoch. Maen nhw'n cyrraedd yn y gwanwyn i wledda ar y creaduriaid di-asgwrn-cefn sy'n byw ac yn magu yn y coed derw.
Hen Borfeydd
Mae porfeydd y Gilfach yn ferw o fywyd yn yr haf. Caiff llu o bryfetach, yn cynnwys glöynnod byw fel gweirlöynnod bach y waun, gwibwyr a brithegion perlog bach eu denu i'r caeau sy'n llawn blodau gwylltion a gweiriau. Gwelir twmpathau morgrug yma a thraw mewn llawer o'r caeau gan ddangos na chawsant eu haredig ers degawdau.
Edrychwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am y rhywogaethau glöynnod byw niferus a geir yma:
Môr o Liw
Daw grug y mêl, grug cyffredin ac eithin â môr o liw i'r llethrau ddiwedd haf. Caiff pryfetach fel cacynen y llus a'r gwyfyn cringoch eu denu at eu blodau sy'n llawn neithdar.
Ymwelwyr Cefnforol
Mae llwyfan y rhaeadr yn lle da i wylio eogiaid ym mis Tachwedd wrth iddynt lamu i fyny'r rhaeadr ar eu taith i ddodwy eu hwyau yn y pyllau lle cawsant hwythau eu silio.