Y weledigaeth ar gyfer Pentwyn mewn deng mlynedd ar hugain...
Mae Pentwyn wedi helpu i arwain y ffordd i Gymru o ran dangos ac arddangos sut y gallwn adfer byd natur, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac adfywio’r economi wledig.
Mae ymwelwyr â’r safle yn cael eu trochi mewn profiad sy’n gyforiog o natur, gan gerdded dros dir lle mae prosesau naturiol helaeth a chymunedau llystyfiant deinamig, symudol yn cynnal digonedd o blanhigion, pryfed ac adar. 30 mlynedd yn ôl, yr oedd pobl yn meddwl bod y fan hon yn flêr, ond erbyn hyn maent wedi dod i sylweddoli gwerth diwylliannol ac economaidd lleoedd mor gyfoethog o ran natur.
Mae’r safle’n wyllt ond yn groesawgar. Mae pobl yn gadael gyda chof parhaol o’r hyn a wnaethom yn bosibl i fywyd gwyllt, i’r gymuned ac i bobl. Byddwn wedi addysgu ac ysbrydoli pobl i gofleidio dyfodol economeg rheoli tir a rhoi byd natur yn gyntaf, gan barchu treftadaeth gyfoethog ein cymunedau gwledig ar yr un pryd.
Bydd y safle’n cael ei adnabod yn eang fel arweinydd newid ac yn gyrchfan boblogaidd.