
©Chris Gomersall/2020VISION
Aderyn drycin Manaw
Mae’r aderyn bach dirgel yma’n adnabyddus am ei gri iasol ac ar un adeg, cafodd ei gamgymryd am wrachod gan fôr-ladron oddi ar arfordir Cymru! Mae’n teithio miloedd o filltiroedd bob blwyddyn i nythu yn ei dwll bach yn y ddaear er mwyn magu un cyw hynod fflwfflyd.
Enw gwyddonol
Puffinus puffinusPryd i'w gweld
Chwefror - GorffennafSpecies information
Ystadegau
Hyd: 30-38 cmLled yr adenydd: 82 cm
Pwysau: 420 g
Oes ar gyfartaledd: 15 mlynedd
Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).