
©Jon Hawkins Surrey Hills Photography

©Jon Hawkins Surrey Hills Photographer

©Malcolm Brown
Glas y dorlan
Mae’n hawdd iawn methu’r glas y dorlan trawiadol heb fod yn wyliwr craff iawn! Mae’r aderyn hardd yma’n hawdd ei adnabod diolch i’w liwiau glas llachar a chopr metalig. Mae’n gwibio ar hyd glan yr afon neu’n eistedd yn amyneddgar ar gangen isel uwch ben y dŵr yn aros i’w bryd nesaf nofio heibio.
Enw gwyddonol
Alcedo atthisPryd i'w gweld
Ionawr - RhagfyrSpecies information
Ystadegau
Hyd: 15-17 cmLled yr adenydd: 25 cm
Pwysau: 40 g
Oes ar gyfartaledd: 2 flynedd
Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Wedi’i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Ynghylch
Mae glas y dorlan yn aderyn lliwgar ar afonydd a nentydd. Mae i’w weld yn eistedd yn dawel ar ganghennau isel uwch ben y dŵr, gan ddeifio’n ddirybudd i ddal pysgodyn bach. Mae glas y dorlan yn byw mewn nythod tebyg i dyllau ger llynnoedd a dyfrffyrdd eraill, gan ddewis llecyn perffaith i bysgota!Sut i'w hadnabod
Mae’r gymysgedd drawiadol o gefn glas llachar a brest gopr fetalig yn gwneud glas y dorlan yn unigryw. Mae gan y gwrywod big du i gyd, a’r benywod damaid coch neu oren ar ei waelod.Dosbarthiad
Eang, ond yn absennol o ogledd yr Alban.Roeddech chi yn gwybod?
Er mai un rhywogaeth sydd gennym ni ym Mhrydain, mae tua 90 o rywogaethau o las y dorlan ym mhob cwr o’r byd, gyda’r rhan fwyaf â phlu lliwgar a llachar. Glas y dorlan Awstralia – y Kookaburra cyfarwydd sy’n ‘chwerthin’ – yw’r trymaf o’r holl rywogaethau o las y dorlan.Gwyliwch
Kingfisher (https://vimeo.com/447524898)
Kingfisher by Russell Savory