
Red squirrel © Mark Hamblin/2020VISION
Gwiwer goch
Mae’n bur debyg eich bod chi wedi gweld llawer o wiwerod – ond ydych chi wedi gweld un goch? Mae gwiwerod coch yn frodorol i’r DU ond yn llawer prinnach na’u cefndryd llwyd! Maen nhw’n byw mewn ychydig o lefydd arbennig ledled y DU diolch i brosiectau ailgyflwyno.
Enw gwyddonol
Sciurus vulgarisPryd i'w gweld
Ionawr i RhagfyrSpecies information
Ystadegau
Hyd: 18-24 cmCynffon: 17-18 cm
Pwysau: 100-350 g
Yn byw ar gyfartaledd am: 6 blynedd
Protected in the UK under the Wildlife and Countryside Act, 1981. Priority Species under the UK Post-2010 Biodiversity Framework.
Habitats
Ynghylch
Mae gwiwerod coch brodorol yn llawer prinnach yn y DU na’u cefndryd Americanaidd, y gwiwerod llwyd. I’w gweld fel rheol mewn coetiroedd conwydd, maen nhw’n hoffi gwledda ar gnau cyll drwy gracio’r gragen yn ei hanner. Os byddwch chi’n lwcus, efallai y gwelwch chi foch coed sydd wedi cael eu cnoi gan adael beth sy’n edrych fel canol afal ar ôl! Mae gwiwerod coch yn creu nyth arw allan o frigau, dail a thameidiau hir o risgl i fyny yn uchel yng nghanopi’r coed. Gellir gweld y gwrywod yn rhedeg ar ôl y benywod drwy’r coed, ac yn llamu ar draws y canghennau a throelli i fyny boncyffion coed.Sut i'w hadnabod
Mae gan y wiwer goch ffwr cochfrown ac mae’n olau oddi tanodd. Mae ganddi gynffon flewog iawn. Mae’n hawdd dweud y gwahaniaeth rhyngddi a’r wiwer lwyd oherwydd ei bod yn llai, mae ei ffwr yn goch ac mae ganddi gudynnau mawr, nodweddiadol ar ei chlustiau.Dosbarthiad
I’w gweld yn yr Alban, Ardal y Llynnoedd a Northumberland; poblogaethau ynysig yn weddill ymhellach i’r de yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Formby, Ynys Môn, Ynys Brownsea yn Dorset, ac Ynys Wyth.Roeddech chi yn gwybod?
Nid yw gwiwerod coch yn gaeafgysgu, ond maen nhw’n cadw stôr o fwyd i’w cynnal drwy gyfnodau anodd pan nad oes bwyd ffres ar gael. Eu hoff gynefin yw coetir llydanddail cymysg a chonwydd ac mae ganddyn nhw ffynhonnell o fwyd drwy gydol y flwyddyn yno, gan fod hadau pîn yn bresennol drwy gydol misoedd y gaeaf.Gwyliwch
Red Squirrel (https://vimeo.com/642268637)
John Bridges